Mae ColegauCymru yn falch iawn o rannu manylion prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi colegau addysg bellach i hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol trwy gynyddu mynediad i weithgareddau creadigol, chwaraeon a diwylliannol.
Mae’r cyllid yn rhan o’r cynllun Adnewyddu a Diwygio a gyhoeddwyd yn hydref 2021 ac sydd wedi’i gynllunio i gefnogi pobl ifanc yr effeithiwyd arnynt yn andwyol o ganlyniad uniongyrchol i bandemig Covid19.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Chwaraeon ColegauCymru Rob Baynham,
“Mae’r cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru wedi derbyn croeso cynnes gan y sector addysg bellach. Mae ymchwil a gomisiynwyd gan ColegauCymru o fis Mehefin 2021 yn cadarnhau effaith andwyol y Pandemig ar ein pobl ifanc a phwysigrwydd lles actif wrth gefnogi adferiad.”
Ychwanegodd Mr Baynham,
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod iechyd a lles actif yn cael eu hariannu’n ddigonol ac yn parhau i fod ar flaen agenda pob coleg. Bydd hyn yn sicrhau bod colegau addysg bellach yn parhau i fod yn lleoedd hapus ac iach i astudio a gweithio ynddynt.”
Bydd y prosiect yn ariannu gweithgareddau ar lefel leol gan gynnwys uwchsgilio dysgwyr chwaraeon fel hyfforddwyr cymunedol a darparu profiadau gweithgareddau i ddysgwyr llai actif a'r grwpiau hynny yr effeithir arnynt fwyaf gan y Pandemig. Daw’r prosiect i ben gyda digwyddiad lle bydd colegau’n dod at ei gilydd i roi cynnig ar weithgareddau newydd a rhannu profiadau o’r prosiect.
Gaeaf Llawn Lles - Her Awyr Agored 2022
29 - 30 Mawrth 2022
Byddwn yn ymuno â'n partneriaid Partneriaeth Awyr Agored a Chwaraeon Cymru ar gyfer y digwyddiad hwn sydd wedi'i gynllunio i gefnogi dysgwyr coleg llai actif i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol fel chwaraeon dŵr, saethyddiaeth a dringo dan do, a fydd yn ei dro yn helpu i hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng nghanolfan Rock UK Summit yn Nhrelewis. Mae'r cyfleuster hwn yn lleoliad gwych sy'n ganolog i'r colegau addysg bellach sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn lefelau gweithgareddau yn ystod y Pandemig.
Amlchwaraeon Awyr Agored Addysg Bellach - Pen-bre 2022
11 Mai 2022
Gan ddychwelyd am yr eildro, cynhelir y digwyddiad hwn ym Mharc Gwledig Pen-bre a bydd yn cynnwys digwyddiadau deuathlon anghystadleuol a chystadleuol. Bydd y digwyddiad cynhwysol hwn yn croesawu ceisiadau unigol a thîm gan gynnwys dysgwyr a staff o golegau addysg bellach.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan ddysgwyr o Goleg Sir Gâr a fydd yn cael eu hyfforddi gan Triathlon Cymru fel “GoTri Activators” a ariennir gan y prosiect Gaeaf Llawn Lles. Bydd y dysgwyr hyn yn gweithredu fel marsialiaid, yn cadw amser yn cynorthwyo gyda phob agwedd ar reoli digwyddiadau ar y diwrnod.
Her Eryri 2022
18 - 19 Mai 2022
Bydd y digwyddiad amlchwaraeon deuddydd hwn yn cynnwys llu o weithgareddau gan gynnwys caiacio, cyfeiriannu, padlfyrddio ar eich traed, dringo dan do a beicio mynydd, a bydd unwaith eto’n cael ei gefnogi gan y Bartneriaeth Awyr Agored ac Adran Awyr Agored Coleg Menai.
Bydd y digwyddiad hwn yn cymryd agwedd ranbarthol gan ganolbwyntio ar ddysgwyr o golegau Gogledd Cymru gyda'r nod o ailennyn diddordeb pobl ifanc mewn gweithgareddau awyr agored wrth greu cyfleoedd arweinyddiaeth yn y broses. Bydd dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn cefnogi'r digwyddiad fel rhan o'u hastudiaeth tuag at yrfaoedd yn y diwydiant awyr agored.
Gwybodaeth Bellach
Rydym yn ddiolchgar i’n holl bartneriaid am eu cefnogaeth barhaus i’r digwyddiadau hyn: Chwaraeon Cymru, Y Bartneriaeth Awyr Agored, AoC Sport, Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Coleg Sir Gâr, Cyngor Sir Caerfyrddin.
Ymchwil Pandemig Covid19 ColegauCymru Mehefin 2021
Craffu ar les, dysgwyr chwaraeon Addysg Bellach a'r adferiad Covid19 - cefnogi dyfodol Chwaraeon Cymru
Gwerth Lles Actif mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru
Cysylltwch â Ni
Bydd rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau unigol yn cael ei rhannu â cholegau dros yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser, cyfeiriwch ymholiadau at ein cydweithwyr Rob a Nia.
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon ColegauCymru Rob.Baynham@colegaucymru.ac.uk
Nia Brodrick, Swyddog Prosiect ColegauCymru Nia.Brodrick@colegaucymru.ac.uk