Projects.JPG

Chwaraeon ColegauCymru yw’r corff llywodraethu ar gyfer chwaraeon addysg bellach yng Nghymru. Mae colegau addysg bellach Cymru yn cystadlu yng nghystadlaethau Chwaraeon ColegauCymru ar draws 20 o chwaraeon gyda myfyrwyr o golegau yn cynrychioli Chwaraeon ColegauCymru ar lefel ryngwladol mewn chwaraeon gan gynnwys Pêl-droed, Rygbi, Hoci, Criced a Phêl-rwyd.

Mae gan Chwaraeon ColegauCymru hefyd y rôl ehangach o hyrwyddo chwaraeon, gweithgareddau corfforol a gwirfoddoli yn y sector addysg bellach. Rheolir y gweithgareddau hyn gan ColegauCymru mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru.

Mae’r prosiect Lles Actif yn parhau i fod â chysylltiad agos â meysydd blaenoriaeth Chwaraeon Cymru, gan godi cyfranogiad, cynyddu gwirfoddoli a’r gweithlu a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau. O fewn y prosiect, y boblogaeth darged yw myfyrwyr addysg bellach yn y grŵp oedran 16-24 sy'n astudio cyrsiau amser llawn mewn colegau. Ers 2014, mae’r prosiect wedi ymgysylltu â 30,000 o bobl ifanc ledled Cymru.

Gwybodaeth Bellach

Am ragor o wybodaeth ar bob agwedd o waith Chwaraeon a Llesiant ColegauCymru, cysylltwch â Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles ColegauCymru, Rob.Baynham@colegaucymru.ac.uk

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.