Ein gweledigaeth yw addysg o safon fyd-eang i Gymru. Ein cenhadaeth yw dangos gwerth addysg bellach i bob dysgwr, i gymdeithas ac i'r economi. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n rhanddeiliaid, ond dim ond drwy ymroddiad a gwaith caled ein tîm rhagorol o staff y gallwn wneud hynny.
Mae ColegauCymru yn elusen addysg ôl-16 sy'n cynnwys tîm bach o unigolion brwdfrydig a medrus, ac mae gan y sefydliad brofiad helaeth yn sector addysg bellach Cymru.
Rydym yn credu bod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang, a ddarperir mewn amgylchedd diogel, amrywiol a chynhwysol, ac o fewn sector addysg bellach sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.