Mae Fforwm Penaethiaid Addysg Bellach ColegauCymru yn cynrychioli buddiannau darparwyr addysg bellach. Yn ogystal, rydym yn cynnull nifer o grwpiau strategol gyda ffocws wedi'i dargedu.
Grŵp Lles Actif
Cadeirydd: Cathernine Lewis, Grwp Colegau NPTC
Ffocws ar chwaraeon, gweithgaredd corfforol a materion lles yn y sector AB. Trafod materion a phryderon perthnasol gyda’r nod o wella mynediad dysgwyr at weithgarwch, datblygu arfer da a chyfleoedd creadigol ar gyfer colegau yng Nghymru.
Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd
Cadeirydd: Yana Williams, Coleg Cambria
Mae'r Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd yn canolbwyntio ar ddatblygiad yr addysg a gaiff dysgwyr mewn colegau. Gan weithio ochr yn ochr â Cymwysterau Cymru ac Estyn, mae'r Grŵp yn adolygu datblygiadau addysgol sectorau amrywiol megis Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig; Peirianneg; Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant; Teithio a Thwristiaeth; a'r sectorau Lletygarwch ac Arlwyo.
Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cadeirydd: Viv Buckley, Goleg Penybont
Mae’r Grŵp hwn yn ystyried materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector addysg bellach ac yn adrodd i’r Fforwm Penaethiaid ar gamau gweithredu i wneud cynnydd. Mae materion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn seiliedig yn bennaf ar y naw nodwedd warchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ond wedi’u hehangu i gynnwys y Gymraeg a niwroamrywiaeth yn ei ystyr ehangaf.
Rhwydwaith Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol
Cadeirydd: Mark Dacy, Grwp Colegau NPTC
Mae’r Rhwydwaith Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol yn datblygu agwedd strategol at faterion AD o fewn y sector addysg bellach ac yn gwneud argymhellion i’r Fforwm Penaethiaid.
Grŵp Rhyngwladol
Cadeirydd: Andrew Cornish, Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion
Gyda sawl maes ffocws, mae’r Grŵp hwn yn cefnogi datblygiad cyfleoedd i ddysgwyr weld a phrofi gwahanol rannau o’r byd. Mae hefyd yn helpu i ddod ag addysgu o wledydd eraill i Gymru. Mae rhaglenni cyfnewid dysgu fel y rhaglen Taith a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn galluogi dysgwyr a staff i deithio a chael profiad gwaith gwerthfawr, gyda'r Grŵp yn helpu i ddatblygu a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hyn.
Rhwydwaith Rheolwyr Systemau Gwybodaeth Reoli (MIS)
Cadeirydd: Joathan Morgan, Coleg y Cymoedd
Gyda'r nod o ddatblygu systemau gwybodaeth rheolwyr o fewn colegau, mae'r Rhwydwaith hwn yn edrych ar y systemau a'r data amrywiol sy'n bwysig ar gyfer datblygu dysgu myfyrwyr. Mae'r penderfyniadau a wneir yn canolbwyntio ar wella dysgu, profiad y dysgwr a chydweithio traws-golegol.
Grŵp Dysgu Seiliedig ar Waith Strategol a Chyflogadwyedd
Cadeirydd: Barry Walters, Coleg Sir Benfro
Mae’r Grŵp hwn yn datblygu dull strategol o ymdrin â materion dysgu seiliedig ar waith yn y sector AB gan gynnwys prentisiaethau ac yn gwneud argymhellion i’r Fforwm Penaethiaid.