Tîm ColegauCymru

Gyda’n gilydd, mae Tîm ColegauCymru yn ymrwymo i hyrwyddo budd cyhoeddus addysg bellach yng Nghymru. Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.

David Hagendyk, ColegauCymru.png

Prif Weithredwr

David Hagendyk
Amdan David Hagendyk

David.Hagendyk@ColegauCymru.ac.uk

Mae David wedi gweithio mewn swyddi arwain, ymgyrchu a datblygu polisi yng Nghymru am y deunaw mlynedd diwethaf. Ymunodd â ColegauCymru ym mis Hydref 2022, ar ôl treulio saith mlynedd yn Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru fel Cyfarwyddwr Cymru.

Cyn ymuno â Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, bu hefyd yn gweithio am saith mlynedd fel Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru. Cyn hyn bu’n Swyddog Cyswllt Gwleidyddol ar gyfer Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru, fel Pennaeth Polisi Llafur Cymru, ac mae wedi gweithio fel ymchwilydd i Huw Lewis AC a Lynne Neagle AC.

CarolynThomas.jpeg

Cyfarwyddwr Cyllid

Carolyn Thomas
Amdan Carolyn Thomas

Carolyn.Thomas@ColegauCymru.ac.uk

Mae Carolyn wedi gweithio yn y sector addysg bellach er 1991, wedi cyfnod yn gweithio fel cyfrifydd coleg bach.

Mae hi wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid ColegauCymru ers 2004 ac mae'n gymrawd o'r ACCA.

kellyEdwards.jpg

Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygu Strategol

Kelly Edwards
Amdan Kelly Edwards

Kelly.Edwards@ColegauCymru.ac.uk

Mae Kelly yn arwain Rhaglen Ddatblygu ColegauCymru gyda’r uchelgais o gyfoethogi'r profiad dysgu a gwella canlyniadau dysgu ar gyfer y sector addysg bellach. Mae hi’n gweithio gyda’r Fforwm Penaethiaid a Phrif Weithredwyr a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr i sicrhau bod y Rhaglen yn cyd-fynd â gweledigaeth a chenhadaeth yr elusen. Mae Kelly hefyd yn Aelod o Fwrdd Cyngor y Gweithlu Addysg.

raachel cable .jpg

Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus

Rachel Cable
Amdan Rachel Cable

Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk

Mae Rachel Cable yn arwain Tîm Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, gan sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd ag amcanion strategol y sefydliad.

Cyn ymuno ColegauCymru, treuliodd Rachel 15 mlynedd yn gweithio ym maes polisi, ymgyrchoedd ac eiriolaeth yng Nghymru, gan gynnwys i Prifysgolion Cymru, a chydlynu ymgyrchoedd ar gyfer Aelod Seneddol. Bu Rachel hefyd yn bennaeth tîm amlddisgyblaethol Oxfam Cymru ar draws polisi, eiriolaeth, y cyfryngau, ac addysg, gan gynnwys cadeirio’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau Cymru.

Ochr yn ochr â’r rolau hyn, mae Rachel yn llywodraethwr ysgol ac wedi gweithredu fel ymddiriedolwr elusen ar gyfer undeb myfyrwyr.

jeff.jpg

Cynghorydd Strategol - DSW a Chyflogadwyedd

Jeff Protheroe
Amdan Jeff Protheroe

Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk

Jeff yw'r pwynt cyswllt allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyrff perthnasol eraill yn y sector. Mae’n cefnogi’r sefydliad i lunio ymatebion sector i gynigion polisi gan gynnwys newidiadau i ffrydiau ariannu, diwygio cymwysterau, datblygu’r cwricwlwm a chyfrannu at adolygiadau fframwaith prentisiaeth. Mae’n gwneud ymchwil i lunio a dylanwadu ar bolisi ac yn datblygu cysylltiadau agos ag arweinwyr mewn colegau i optimeiddio cydweithio ac atebion arloesol. Mae Jeff hefyd yn cynnull gweithgorau ac yn arwain ar ddatblygu a chyflwyno ceisiadau grant a chynigion perthnasol eraill am gyllid ar ran y sector AB i wella canlyniadau DYYG a chyflogadwyedd.

Alex Still.jpeg

Rheolwr Polisi

Alex Still
Amdan Alex Still

Ymunodd Alex â ColegauCymru yn 2026 yn dilyn gyrfa 17 mlynedd yng nghanol gwleidyddiaeth a datganoli Cymru yn y Senedd. Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd swyddfeydd dau Aelod etholedig, gan ennill profiad helaeth o faterion cyhoeddus, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol.

Yn ei rôl fel Rheolwr Polisi, mae Alex yn chwarae rhan allweddol wrth lunio a chyflawni polisi ColegauCymru a dylanwadu ar weithgarwch, gan weithio gyda chydweithwyr ar draws y Tîm Polisi a Materion Cyhoeddus i sicrhau bod ein safbwyntiau polisi wedi'u halinio'n strategol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ymatebol i ddatblygiadau gwleidyddol, deddfwriaethol a sector sy'n dod i'r amlwg.

SianHolleran.png.jpeg Welsh language speaker

Rheolwr Prosiect - Ewropeaidd a Rhyngwladol

Siân Holleran
Amdan Siân Holleran

Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk

Ymunodd Siân â CholegauCymru fel Cydlynydd Ewropeaidd a Rhyngwladol ym mis Tachwedd 2010. Mae ei phrif feysydd gwaith yn cynnwys cydlynu rhaglen o gyfleoedd hyfforddiant tramor i staff, dysgwyr a phrentisiaid, gan weithredu dros Lywodraeth Cymru fel Pwynt Cyswllt Cenedlaethol ar gyfer mentrau'r UE a gwerthu Cymru i'r byd trwy weithio ar y cyd gyda phartneriaid rhyngwladol.

Mae Siân yn rhugl mewn Ffrangeg, Sbaeneg a Chymraeg. Gynt bu'n gweithio i CILT Cymru, y ganolfan genedlaethol ar gyfer ieithoedd, gan hyrwyddo dysgu ieithoedd modern fel sgil gwerthfawr i bobl ifanc mewn byd sy'n gynyddol fyd-eang. Mae Siân yn parhau i rannu ei chariad at ieithoedd a diwylliannau gwledydd eraill trwy hyrwyddo buddion treulio cyfnodau o amser yn astudio neu'n gweithio dramor i bobl ifanc. Mae hi hefyd yn cynrychioli'r sector addysg bellach ar y grŵp llywio Llwybrau i Ieithoedd Cymru.

chris .jpg

Arweinydd Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (AB)

Chris Denham
Amdan Chris Denham

Chris.Denham@ColegauCymru.ac.uk

Dechreuodd Chris ei yrfa'n gweithio yn y diwydiant adeiladu yn Surrey, cyn cwblhau ei Dystysgrif Addysg yng ngholeg Polytechneg Huddersfield ac yna symud i Bont-y-pŵl ar gyfer swydd ddarlithio yn adran dechnoleg y coleg. Roedd Chris yn allweddol i sefydliad y cyrsiau cyswllt anghenion arbennig cyntaf gydag Ysgol Arbennig Crownbridge ar ddiwedd y 1980au ac ar ôl rhywfaint o ailhyfforddi, datblygodd raglen anghenion arbennig amser llawn, newydd ym Mhont-y-pŵl. Wrth i'r ddarpariaeth hon dyfu, cydnabu'r angen am gymorth yn y prif ffrwd ac felly ennillodd gymhwyster ychwanegol mewn anawsterau dysgu penodol a sefydlodd ganolfan gymorth yn y coleg.

Ar ôl ymgorffori a chreu Coleg Gwent, gwnaeth Chris sawl swydd reoli cyn derbyn swydd Rheolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Ngholeg Gwent yn 2014. Yn ystod y cyfnod hwn, cynrychiolodd y coleg hefyd ar Rwydwaith ADY ColegauCymru, gan gyflawni rôl Cadeirydd o 2014.

Mae Chris wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd diwethaf i helpu i lunio Deddf a Chôd Ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET). Derbyniodd ei swydd bresennol gyda CholegauCymru ym mis Ionawr 2018 ac mae'n parhau i gefnogi colegau yng Nghymru wrth iddynt baratoi i weithredu ALNET.

rachel rimanti.jpg Welsh language speaker

Rheolwr Swyddfa a Llywodraethu

Rachel Rimanti
Amdan Rachel Rimanti

Jamie.Adair@ColegauCymru.ac.uk

Ymunodd Jamie â thîm Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru o Gymdeithas Chwaraeon Cymru ym mis Ebrill 2022. Cyn hyn, graddiodd o Brifysgol Abertawe gydag MA mewn Gwleidyddiaeth a BA mewn Hanes.

Ei rôl yw cynrychioli sefydliadau addysg bellach ar lwyfan cenedlaethol, gan weithio’n agos ag Aelodau Seneddol a Swyddogion Llywodraeth Cymru, gan wneud gwaith ymchwil a dadansoddi i helpu i ddatblygu argymhellion polisi cyhoeddus.

Mae Jamie yn ddeiliad tocyn tymor Clwb Pêl-droed Abertawe ac mae'n ddilynwr chwaraeon brwdfrydig. Mae’n dilyn pêl-droed, tennis, dartiau, golff, snwcer a Fformiwla 1.

lucy .jpg Welsh language speaker

Rheolwr Cyfathrebu

Lucy Hopkins
Amdan Lucy Hopkins

Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Mae Lucy' rheoli ein gweithgareddau cyfathrebu a marchnata, yn unol ag amcanion strategol y sefydliad. Mae hi'n sicrhau bod ein cyfathrebiadau yn ddylanwadol, yn addysgiadol ac yn briodol i'n rhanddeiliaid.

GillBarclay.jpeg

Swyddog Cyllid

Gill Barclay
Amdan Gill Barclay

Gill.Barclay@ColegauCymru.ac.uk

Mae Gill yn gweithio fel Swyddog Cyllid ColegauCymru. Yn ychwanegol i'r rôl hon, mae hi'n darparu cymorth technoleg gwybodaeth ac yn rheoli cyfleusterau'r sefydliad.

amy .jpg Welsh language speaker

Swyddog Prosiect

Amy Williams
Amdan Amy Williams

Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk

Graddiodd Amy o Brifysgol Abertawe yn 2011 gyda gradd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu. Yn dilyn 5 mlynedd yn y sector manwerthu, ymunodd â CholegauCymru fel Derbynnydd. Ym mis Mai 2017, dechreuodd rôl fel Cynorthwyydd Materion Cyhoeddus ac ym mis Mawrth 2020 symudodd ymlaen i rôl Swyddog Polisi. Ym mis Mehefin 2026 daeth yn Swyddog Prosiect yn gweithio yn y tîm Partneriaethau a Datblygu Strategol. Mae Amy yn siaradwr Cymraeg rhugl.

vicky.jpg

Swyddog Prosiect

Vicky Thomas
Amdan Vicky Thomas

Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk

Ymunodd Vicky â ColegCymru yn 2022. Gan weithio fel Swyddog Prosiect yn y Tîm Datblygu, mae’n arwain ac yn rheoli ein gwaith rhyngwladol, gan gynnwys prosiectau Dysgwyr a Staff Erasmus+

Untitled design.png

Gweinyddwr Prosiect a Swyddfa

Rosie Sinfield
Amdan Rosie Sinfield

Rosie yw Gweinyddwr Prosiect a Swyddfa ColegauCymru, yn darparu cefnogaeth weinyddol ar draws Grwpiau Strategol, Rhwydweithiau, Prosiectau ac Uwch Dîm Rheoli i'r sefydliad. Cyn ymuno â ColegauCymru, bu Rosie yn gweithio yn y sector addysg uwch a’r sector elusennol a hefyd roedd hi'n cherddwr teithiol. 

Mair Lees.jpeg

Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus

Mair Lees
Amdan Mair Lees

Ymunodd Mair â ColegauCymru yn 2026 ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd baglor mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Fel aelod o'r tîm Polisi a Materion Cyhoeddus, mae hi'n cefnogi gwaith ColegauCymru ar draws y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Content will populate this