Gwneud y Cysylltiad - Lles Actif a Chwaraeon mewn Addysg Bellach

12.06.15 MH College Sports Cardiff 42.JPG

Mae pandemig Covid19 wedi cael effaith enfawr ar iechyd a lles y genedl yn ogystal â'r ymyrraeth â'r system addysg.

Mae ColegauCymru yn falch o gynnal gweminar a fydd yn myfyrio ar yr effaith ar chwaraeon a lles mewn colegau Addysg Bellach ledled Cymru a sut mae'r cysylltiad rhwng gweithgareddau a lles yn cael ei ddatblygu fel datrysiad.

Dawn Bowden ASRydyn ni wrth ein bodd y bydd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS, yn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad ar-lein hwn a gynhelir ar 21 Hydref 2021. Bydd cynrychiolwyr dysgwyr addysg bellach yn ymuno â hi a fydd yn rhannu eu profiadau personol o'r amser heriol hwn.

Gwybodaeth Bellach

Bydd mwy o fanylion am y digwyddiad hwn ar gael yn fuan. Yn y cyfamser, cysylltwch â Rheolwr Prosiect Chwaraeon ColegauCymru, Rob Baynham, gydag unrhyw gwestiynau: Rob.Baynham@coelgaucymru.ac.uk

Dyddiad: 21 Hydref 2021

Amser: 11.00yb - 12.00yp

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.