Yr hydref hwn bydd ColegauCymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer Lles Actif.
Gyda chefnogaeth ymchwil ddiweddar a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwell iechyd meddwl mewn addysg bellach, bydd y fforymau’n cynnwys staff a dysgwyr o golegau ochr yn ochr â rhanddeiliaid o’r sectorau lles a chwaraeon.
Bydd mynychwyr yn cael yn dysgu mwy am les actif ac yn cael y cyfle i gyfrannu at ddatblygiad y dyfodol. Mae themâu allweddol yn cynnwys gwneud y cysylltiad rhwng gweithgareddau a lles; newid diwylliannol a datblygu gweithlu mwy gwydn yn y dyfodol; a nodi cyfleoedd i gydweithio â cholegau addysg bellach ynghylch lles actif.
* Dyddiadau i'w nodi *
Gogledd Cymru 18 Hydref 2022
Campws Glannau Dyfrdwy
Coleg Cambria
Gorllewin Cymru 20 Hydref 2022
Campws y Graig, Llanelli
Coleg Sir Gar / Coleg Ceredigion
De Cymru 25 Hydref 2022
Academi STEAM
Coleg Penybont
Gwybodaeth Bellach
Gwahoddiadau i ddilyn ond yn y cyfamser, cysylltwch â'n tîm am fanylion pellach neu i gael eich ychwanegu at ein rhestr ebost.
Rob Baynham Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk
Charley Green Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Charley.Green@ColegauCymru.ac.uk
Newyddion
Fforymau Lles Actif Rhanbarthol – Dyddiadau i'w Nodi
Dilynwch Ni
Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.