Mae ColegauCymru yn falch iawn o gadarnhau y bydd ein digwyddiad Her Awyr Agored yn dychwelyd am yr ail flwyddyn y mis hwn.
Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i gefnogi dysgwyr a allai fod yn llai actif neu'n llai tebygol o gael profiad rheolaidd o weithgareddau awyr agored. Unwaith eto byddwn yn ymuno â’n partneriaid Y Bartneriaeth Awyr Agored ar gyfer y digwyddiad deuddydd a gynhelir ar 19 a 20 Ebrill. Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol fel chwaraeon dŵr a dringo dan do. I lawer, dyma fydd eu profiad cyntaf o weithgareddau o’r fath, a fydd yn eu tro’ helpu i hybu lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.
Gyda dros 150 o ddysgwyr o 11 coleg ledled Cymru yn dod at ei gilydd i gymryd rhan, rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddigwyddiad llwyddiannus arall.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru, Rob Baynham,
“Wrth i ni gydweithio i adennill o effaith sylweddol y Pandemig ar iechyd a lles ein dysgwyr, rydym yn falch o gynnal y digwyddiad hwn unwaith eto. Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan ColegauCymru fod gan les actif nifer o fanteision ac y gellir ei ddefnyddio fel model iechyd meddwl ataliol cynaliadwy. Bydd y digwyddiad hwn yn cefnogi dysgwyr a staff i wneud y cysylltiad rhwng bod yn actif a lles.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru David Hagendyk,
“Mae hwn yn ddigwyddiad gwych sydd wedi’i gynllunio i gefnogi’r dysgwyr hynny sy’n parhau i gael eu heffeithio fwyaf gan effaith Covid19. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i alluogi digwyddiadau cynhwysol o’r fath i gael eu cynnal. Mae’r prosiectau hyn yn hollbwysig i genedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.”
Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Rock UK Summit yn Nhrelewis, De Cymru. Mae'r cyfleuster wedi'i leoli'n ganolog i sawl un o'r colegau addysg bellach dan sylw ac mewn ardaloedd lle gostyngodd lefelau gweithgaredd yn sylweddol yn ystod y Pandemig. Disgwylir i ystod eang o ddysgwyr sy'n ymdrin â meysydd cwricwlaidd fel amaethyddiaeth, lletygarwch ac arlwyo, cerbydau modur, teithio a thwristiaeth ac sgiliau byw’n annibynnol fynychu.
Gwybodaeth Bellach
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk