ColegauCymru i groesawu Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ddigwyddiad Gaeaf Llawn Lles - Her Awyr Agored

climbing.jpeg

Mae’n bleser gan ColegauCymru groesawu’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon Dawn Bowden AS, i’n digwyddiad Gaeaf Llawn Lles - Her Awyr Agored 2022, ar 30 Mawrth.

Wedi’i hariannu fel rhan o Raglen Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi lles a dilyniant dysgwyr yn dilyn Pandemig Covid, byddwn yn ymuno â’n partneriaid Partneriaeth Awyr-Agored a Chwaraeon Cymru ar gyfer y digwyddiad deuddydd hwn (29 - 30 Mawrth). Bydd dysgwyr coleg yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol fel chwaraeon dŵr a dringo dan do, i lawer dyma eu profiad cyntaf a fydd yn ei dro yn helpu i hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.

Bydd dros 150 o ddysgwyr yn dod at ei gilydd i gymryd rhan yn y digwyddiad a fydd yn rhoi cyfle gwych i’r Dirprwy Weinidog gwrdd â dysgwyr a gwirfoddolwyr ac i weld cyllid Llywodraeth Cymru ar waith!

Dywedodd Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles ColegauCymru Rob Baynham,

“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael effaith aruthrol ar iechyd a lles y genedl yn ogystal ag ymyrraeth sylweddol i’r system addysg. Canfu’r ymchwil a gomisiynwyd gan ColegauCymru yn 2021 fod gan les actif nifer o fanteision posibl ac y gellid ei ddefnyddio fel model iechyd meddwl ataliol cynaliadwy. Bydd y digwyddiad hwn yn cefnogi dysgwyr a staff i wneud y cysylltiad rhwng bod yn actif a lles.”

Cynhelir y digwyddiad yng nghanolfan Rock UK Summit yn Nhrelewis, De Cymru. Mae'r cyfleuster wedi'i leoli'n ganolog i'r colegau addysg bellach fydd yn cymryd rhan ac mewn ardaloedd lle gostyngodd lefelau gweithgaredd yn sylweddol yn ystod y Pandemig. Mae hwn yn argoeli i fod yn ddigwyddiad cynhwysol a disgwylir i ystod eang o ddysgwyr fynychu - o fyfyrwyr amaethyddiaeth i ddysgwyr peirianneg awyrennau - a disgwylir cyfranogiad o 12 campws coleg o bob rhan o Gymru.

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn ddiolchgar am y cyllid Gaeaf Llawn Lles ychwanegol a ddarparwyd fel rhan o Gynllun Adnewyddu a Diwygio Llywodraeth Cymru i helpu ein dysgwyr i wella a ffynnu ar ôl dwy flynedd heriol. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi’r sector addysg bellach i helpu i wrthbwyso unrhyw effaith negyddol bellach.”

Gywbodaeth Bellach

ColegauCymru
 
Gaeaf Llawn Lles – Her Awyr Agored 2022 
29-30 Mawrth 2022
 
ColegauCymru 
Llywodraeth Cymru yn cefnogi addysg bellach i hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol trwy fynediad at weithgareddau creadigol, chwaraeon a diwylliannol 
28 Ionawr 2022

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.