Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o £65 miliwn o gyllid newydd ar gyfer addysg bellach, addysg uwch ac addysg oedolion yn y gymuned yng Nghymru.
Mae’n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru yn rhannu uchelgais ColegauCymru ar gyfer Cymru’r dyfodol sy’n ceisio gwella seilwaith, cyflwyno adeiladau gwyrddach a gwella ein dealltwriaeth o sero net yn y sector addysg bellach.
Bydd y cyllid hefyd yn helpu dysgwyr addysg bellach i wella ac addasu mewn byd ôl-Covid, trwy sicrhau parhad dysgu wyneb yn wyneb diogel, mentora a chynnydd angenrheidiol yn narpariaeth iechyd meddwl.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ymhellach i fynd i'r afael â'r broblem barhaus o recriwtio staff i'r sector.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Mae newyddion am gyllid Llywodraeth Cymru wedi ei groesawu gan y sector addysg bellach a bydd yn hanfodol i gefnogi’r garfan o ddysgwyr sydd wedi cael eu heffeithio’n andwyol gan y pandemig. Cadarnhaodd ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan ColegauCymru yn Haf 2021 bwysigrwydd lles actif i iechyd cymuned y coleg yn ei chyfanrwydd”.
Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu dysgwyr i fod yn fwy gwydn a pharod i wynebu heriau’r dyfodol wrth iddynt symud ymlaen yn eu haddysg neu i fyd gwaith.
Gwybodaeth Bellach
Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Cyllid newydd o £65 miliwn i helpu colegau a phrifysgolion i gyrraedd sero net
13 Ionawr 2022
Ymchwil a Gomisiynwyd yn Annibynnol ColegauCymru
Craffu ar les, dysgwyr chwaraeon Addysg Bellach a'r adferiad Covid19 - cefnogi dyfodol Chwaraeon Cymru
Mehefin 2021
Gwerth Lles Actif mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru
Mehefin 2021