Mae’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn annog myfyrwyr i gymryd rhan fel rhan o dimau Rheoli Myfyrwyr mewn colegau. Mae’r timau hyn yn datblygu chwaraeon a gweithgareddau corfforol newydd i fyfyrwyr.
Os ydych chi’n llysgennad ifanc, gallwch barhau â’ch gwaith yn y coleg, neu os nad ydych chi wedi bod yn rhan o’r rhaglen, gallwch gofrestru pan fyddwch yn mynd i’r coleg. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Rheoli Myfyrwyr y coleg neu’r adran Chwaraeon yn y coleg.