Projects.JPG

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r system addysg wedi cael ei hamharu’n sylweddol o ganlyniad i bandemig Covid-19.  Mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau), mae dysgwyr mewn rhaglenni academi a chwaraeon wedi cael eu heffeithio’n sylweddol wrth golli cyfleoedd ymarferol i roi’r hyn y maent yn ei ddysgu ar waith ac i gymryd rhan, gwirfoddoli, hyfforddi, arwain, a chystadlu yn eu disgyblaethau dewisol.  Comisiynodd ColegauCymru BlwBo Limited i adolygu effaith y 15 mis diwethaf ar ddysgwyr chwaraeon addysg bellach (AB). 

Rhwng Ebrill a Mehefin 2021, cynhaliwyd grwpiau ffocws ar-lein gyda dysgwyr o 12 SAB yng Nghymru, gan roi cyfle pwysig i gyfleu llais dysgwyr.  Dadansoddwyd adborth dysgwyr mewn perthynas â cholli chwaraeon o ran eu lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol, a’r cysylltiadau rhwng hyn a’u datblygiad personol a’u rhagolygon cyflogadwyedd.  Clywsom gan gymysgedd o gynrychiolwyr gwrywaidd a benywaidd, ail a thrydedd blwyddyn, a’u tiwtoriaid a/neu Swyddogion Lles Actif.  Cyfrannodd 93 o ddysgwyr i gyd at yr ymchwil. 

Darllenwch yr Adroddiad

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.