Cafodd Lles Actif1 ei lansio ym mis Chwefror 2020, gan sefydlu cyfeiriad strategol newydd i GolegauCymru a Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru. Canlyniad strategol allweddol yw “Hawl. Sicrhau bod gan bawb yn y Sector AB fynediad at weithgareddau sydd yn gwella eu lles personol”. Rhwng Ebrill a Mehefin 2021, comisiynodd ColegauCymru BlwBo Limited i gynnal ymchwil ansoddol i archwilio’r cysylltiad rhwng gweithgaredd a lles ewdemonaidd (twf a hunansylweddoliad ystyrlon, a dysgwyr yn sylweddoli eu potensial ac yn cael bywydau gweithredol llawn) fel sylfaen ar gyfer mesur effaith gweithgaredd ar ddysgwyr Addysg Bellach (AB). Mae cyfoeth o ddata meintiol yn dangos perthynas gadarnhaol rhwng gweithgaredd corfforol a lles. Gallai creu amgylchedd lle mae gan ddysgwyr a cholegau wybodaeth a dealltwriaeth well o’r buddion corfforol, emosiynol a lles cymdeithasol, gefnogi twf pellach cyfranogiad lles actif ar draws y sector AB yng Nghymru.
Mae cyfleu llais dysgwyr i ddeall y cysylltiad rhwng cyfranogiad ac effaith yn rhan o’r broses hon. Cynhaliwyd cyfres o grwpiau ffocws ar-lein gyda dysgwyr o 11 Sefydliad Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru. Cyfrannodd 87 o ddysgwyr i gyd at yr ymchwil, yn astudio ystod o gyrsiau gwahanol, yn cynrychioli grwpiau blwyddyn a lleoliadau gwahanol: myfyrwyr athrawon cynorthwyol aeddfed yn astudio’n rhan-amser, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), y celfyddydau perfformio, iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, Cychwyn Iach, Sgiliau Bw’n Annibynnol (ILS) a dysgwyr ar gyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus. Cymerodd tiwtor a Swyddog Lles Actif ran ym mhob grŵp hefyd.
Gwerth Lles Actif mewn SABau yng Nghymru

Dilynwch Ni
Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.