Mae prosiect wedi cyrraedd 24,000 o bobl ifanc ers 2014.

Minister photo.jpg

Mewn partneriaeth â Sport Wales, ni yw’r sefydliad arweiniol ar gyfer chwaraeon, gweithgaredd corfforol a gweithgareddau gwirfoddoli mewn colegau yng Nghymru. Roedd gan y prosiect ActiveWell-being gysylltiad agos â meysydd blaenoriaeth Chwaraeon Cymru, a oedd yn cynnwys codi cyfranogiad, cynyddu gwirfoddoli a gweithlu a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Cyfranogi er mwyn Perfformio

Mae dros 1,200 o ddysgwyr Addysg Bellach yn cael eu cefnogi mewn chwaraeon coleg cystadleuol bob blwyddyn, a hynny drwy gystadlaethau a chynghreiriau / cwpanau rhanbarthol Chwaraeon Colegau Cymru. Mae tua 3,000 o ddysgwyr wedi cofrestru ar gyrsiau chwaraeon mewn colegau yng Nghymru, a bydd hyn yn cynnwys chwaraeon ymarferol rheolaidd a gweithgarwch hyfforddi fel rhan o’u hastudiaethau. O’r nifer hwn, byddai cryn dipyn o orgyffwrdd gyda’r 1,200 o gyfranogwyr
sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol; mae’r grŵp hwn yn cael eu cefnogi’n llwyr drwy adnoddau a staff y colegau wrth gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol a chwaraeon sy’n rhan o’r cwricwlwm Addysg Bellach.

Mae cystadlaethau Chwaraeon Colegau Cymru a Chwaraeon Cymdeithas y Colegau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr colegau gymryd rhan yn lefelau nesaf y rhaglenni Cyfranogi er mwyn Cynnydd ac, mewn rhai achosion, Cyfranogi er mwyn Perfformio.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.