Cynhadledd Flynyddol Colegau Cymru 2025 - Cwestiynau Cyffredin
Beth yw dyddiad a lleoliad Cynhadledd Flynyddol Colegau Cymru 2025?
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Colegau Cymru ddydd Iau 23 Hydref 2025.
Lleoliad y Gynhadledd yw Stadiwm Dinas Caerdydd.
Beth yw amserlen y Gynhadledd?
- Cofrestru, lle arddangos a lluniaeth o 8.30yb
- Y gynhadledd yn dechrau am 9.15yb
- Y gynhadledd yn dod i ben am 4.00yp
Cofrestru ac Archebu
Pryd alla i gofrestru?
Mae cofrestru ar gyfer y Gynhadledd bellach ar agor.
Sut ydw i'n cofrestru?
Mae angen i chi cofrestru’ch lle ar-lein. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cofrestru nad ydynt wedi'u hateb ar y dudalen hon, cysylltwch â Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
Faint mae'n ei gostio i fynychu?
Gellir dod o hyd i brisiau'r gynhadledd ar ffurflen cofrestru ar-lein Eventbrite.
Pa ddulliau talu sy'n cael eu derbyn?
Rydym yn derbyn taliad trwy gerdyn credyd, cerdyn debyd neu drosglwyddiad Bacs. Sylwch mai dim ond ar ôl anfon anfoneb y gellir derbyn trosglwyddiadau Bacs, y gellir ei darparu ar ôl cwblhau'r cofrestru a'i gynnwys yn yr e-bost cadarnhau. Gellir gwneud taliadau cerdyn credyd trwy'r dudalen archebu ar-lein ar adeg archebu. Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch taliad, cysylltwch â Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
A allaf newid manylion fy archeb?
Os oes angen i chi newid manylion eich archeb ar ôl i chi gofrestru, gwnewch hynny'n uniongyrchol trwy'r ddolen sydd wedi'i chynnwys yn eich e-bost cadarnhau.
A allaf gofrestru mwy nag un person o fy sefydliad?
Gallwch gofrestru cymaint o gydweithwyr ag y dymunwch.
A allaf ddod â gwestai ychwanegol?
Gall unrhyw un fynychu'r Gynhadledd fel cynrychiolydd sy'n talu ffi. Fodd bynnag, nid yw ColegauCymru yn darparu mynediad am ddim i gynrychiolwyr. Os oes gennych anghenion ychwanegol, ac angen rhywun i ddod gyda chi, cysylltwch â Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
Pryd y byddaf yn derbyn cadarnhad o fy nghofrestriad?
Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau o fewn ychydig oriau o gofrestru’ch lle. Anfonir e-bost cadarnhau at gyfeiriad e-bost y cyswllt cofrestru a nodwyd gennych, a fydd wedyn angen iddo ei anfon ymlaen at fynychwyr ychwanegol o fewn yr archeb grŵp, os yw'n briodol. Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad ar ôl 24 awr, cysylltwch â Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
Newidiadau i'ch archeb
Beth os oes angen i mi ganslo fy mhresenoldeb?
Mae'r cofrestru ar-lein yn gytundeb sy'n rhwymo'n gyfreithiol ac felly rydym yn argymell eich bod ond yn cofrestru ar ôl i chi allu sicrhau eich presenoldeb. Ceir wybodaeth am ein polisi canslo isod.
Beth yw telerau ac amodau cofrestru?
Mae ColegauCymru yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amseriadau'r Gynhadledd a'r sesiynau gweithdy ar unrhyw adeg hyd at amser cychwyn penodedig y Gynhadledd.
Os hoffech ganslo eich presenoldeb, gwnewch hynny'n uniongyrchol trwy'r ddolen sydd wedi'i chynnwys yn eich e-bost cadarnhau.
Os byddwch yn canslo eich archeb, bydd ColegauCymru yn ad-dalu i chi ganran o ffi’r Gynhadledd a dalwyd, fel tâl gweinyddol, ar y sail a ganlyn:
(1) Os derbynnir yr hysbysiad canslo ar neu cyn dydd Mercher 15 Hydref 2025, byddwn yn ad-dalu 100% o ffi’r digwyddiad, llai taliadau Eventbrite.
(2) Os derbynnir yr hysbysiad canslo ar neu ar ôl dydd Iau 16 Hydref 2025, nid oes ad-daliad ar gael.
A yw'n bosibl gwneud dirprwy?
Gellir derbyn dirprwyon drwy’r wefan gofrestru ar-lein cyn y digwyddiad, ar yr amod bod y dirprwy arfaethedig yn dod o’r un coleg/sefydliad â’r cynrychiolydd gwreiddiol.
Sut ydw i'n dewis fy sesiynau grŵp?
Gellir dewis o sesiynau grŵp a ffefrir fel rhan o'r broses gofrestru. Byddwn yn ymdrechu i'ch dyrannu i'ch sesiwn gweithdy dewisol lle bynnag y bo modd.
Cyn y Gynhadledd
Ble gallaf ddod o hyd i'r agenda?
Gellir gweld Agenda'r Gynhadledd yma
Pryd fyddaf yn derbyn fy ngwybodaeth derfynol?
Anfonir gwybodaeth derfynol 10 diwrnod cyn y Gynhadledd. Os nad ydych wedi derbyn manylion wythnos cyn y digwyddiad, cysylltwch Rachel.Rimanti@ColegauCymru.co.uk. Ni all ColegauCymru fod yn gyfrifol am ddiffyg gwybodaeth awtomataidd - mae'n bwysig bod cynrychiolwyr yn gwirio ffolderi sbam.
Pryd fyddaf yn derbyn fy mathodyn enw?
Wrth gyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd cyfle i gasglu eich bathodyn enw wrth y ddesg gofrestru.
Yn ystod y Gynhadledd
A oes WiFi ar gael yn y Gynhadledd?
Bydd WiFi am ddim ar gael yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Beth yw'r cod gwisg?
Gwisg busnes yw'r cod gwisg ar gyfer y Gynhadledd.
Mae gen i anghenion ychwanegol/dietegol
Gallwch nodi unrhyw anghenion ychwanegol/dietegol sydd gennych ar y ffurflen archebu ar-lein.
Cyfleusterau teithio a pharcio
Lle bo modd, gofynnwn i chi ystyried teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu rannu car.
Gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus: Bws Caerdydd | National Rail
Parcio yn y Gynhadledd: Parcio am ddim yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
A fydd ystafell weddi/man tawel y gall cynrychiolwyr ei defnyddio?
Oes. Cysylltwch ag aelod o staff y Gynhadledd am fanylion pellach.
Yn dilyn y Gynhadledd
A allaf gael copïau o'r deunyddiau a gyflwynwyd yn y Gynhadledd?
Bydd cyflwyniadau dethol ar gael ar-lein yn dilyn y Gynhadledd.
Cyfleoedd Nawdd
Sut mae noddi neu arddangos yn y digwyddiad?
Yma gallwch ddod o hyd i fanylion y cyfleoedd sydd ar gael.
Am wybodaeth am nawdd a chyfleoedd arddangos, cysylltwch Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
Unrhyw Gwestiynau Eraill
 phwy y gallaf gysylltu os oes gennyf gwestiynau ychwanegol am y Gynhadledd?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, cysylltwch Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
* TUDALEN COFRESTRU AR AGOR *