Diolch i bawb a fynychodd Gynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2023 - Llunio dyfodol addysg bellach - darparu Cymru gryfach, wyrddach a thecach. Mae eich cefnogaeth barhaus i’r sector yn dangos gwerth addysg bellach nid yn unig i ddysgwyr, ond i gymdeithas ac i economi ehangach Cymru.
Cawsom ein calonogi gan y drafodaeth fywiog a gafwyd ar draws pob un o’n 8 gweithdy, lle buom yn edrych ar ystod o feysydd:
- Edrych tuag at Gymru Wrth-hiliol 2030
- Adeiladu strategaeth addysg alwedigaethol i Gymru
- Llunio dyfodol dwyieithog i addysg bellach
- Lles Actif mewn Addysg Bellach: Colegau Actif – Bywydau Actif – Cymru Actif
- Mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn addysg bellach (mae mwy o gyhoeddiadau addysg ôl-16 gan Estyn ar gael YMA)
- Dyfodol Newydd Cymru: Cefnogi menywod i fyd dechnoleg
- Sut y gall ymweliadau a phartneriaethau rhyngwladol wella a chyfoethogi dysgu ac addysgu ar draws y sector
- Llywio cyfleoedd a heriau Deallusrwydd Artiffisial mewn colegau
Yma, gallwch unwaith eto weld Rhaglen Ddigidol y Gynhadledd, gyda manylion yr agenda, gweithdai a noddwyr.
Adborth
Mae eich adborth yn bwysig i ni. Os na chawsoch gyfle yn y Gynhadledd i rannu eich barn, a fyddech cystal â threulio munud i wneud hynny, gan ein helpu i wella cynadleddau a digwyddiadau ColegauCymru yn y dyfodol.
Adborth Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru
Gobeithiwn eich gweld eto yn 2024.