Mae ColegauCymru yn falch o gyhoeddi bod Digwyddiad Amlchwaraeon Addysg Bellach yn dychwelyd a gynhelir ar 15 Mai 2024 ym Mharc Gwledig Pen-bre.
Mae’r Duathlon cynhwysol hwn yn cynnig cyfle i ddysgwyr a staff addysg bellach i gymryd rhan, waeth beth fo’u gallu neu lefel o allu.
Mae ColegauCymru yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein partneriaid Llywodraeth Cymru, Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, AoC Sport, Coleg Sir Gâr, Cyngor Sir Gâr a Pharc Gwledig Pen-bre.
Mae hwn yn argoeli i fod yn ddigwyddiad gwych gyda dros 400 o gofrestriadau eisoes wedi’u derbyn gan golegau gan gynnwys Coleg Penybont, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Sir Gâr, Coleg y Cymoedd, Y Coleg Merthyr Tudful, Grŵp Colegau NPTC, Coleg Walsall a Choleg Sir Benfro.
Gwybodaeth Bellach
Hollie Mitchell, Cynorthwyydd Cyfathrebu a Digwyddiadau