Mae Digwyddiad Amlchwaraeon Cynhwysol Addysg Bellach ColegauCymru yn dychwelyd i Ogledd Cymru!
Yn cael ei gynnal yn Marsh Tracks, Rhyl, ar Ddydd Mercher 5 Mai 2027, mae’r Deuathlon hwn yn cynnig cyfle i bob dysgwr ac aelod o staff mewn lleoliadau addysg bellach gymryd rhan mewn digwyddiad amlchwaraeon cynhwysol. Mae ein digwyddiadau blaenorol yng Ngogledd Cymru wedi croesawu dros 100 o gyfranogwyr ag amrywiaeth eang o alluoedd a phrofiad, gan gynnwys dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) a oedd yn cymryd rhan mewn her gweithgaredd grŵp am y tro cyntaf. Gyda dros 80% o’r cyfranogwyr blaenorol ag anghenion dysgu ychwanegol, mae’r Deuathlon yn cynnig dull gwirioneddol gynhwysol o ymdrin â chwaraeon mewn addysg bellach.
Deuathlon Cynhwysol
Mae’r digwyddiad Deuathlon Cynhwysol yn cynnwys rhediad 1km, taith feicio 4km, ac yna rhediad olaf o 1km. Wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch i bawb, mae hwn yn ddathliad o gyfranogi.
Gwybodaeth Bellach