Aml-chwaraeon Addysg Bellach 2026 - Gogledd Cymru

Photo 14-05-2025, 12 17 03.jpg

Bydd Digwyddiad Aml-chwaraeon Addysg Bellach Colegau Cymru yn dychwelyd i Marsh Tracks, Y Rhyl ar 6 Mai 2026. 

Bydd y digwyddiad cynhwysol hwn yn dod â dysgwyr, colegau a phartneriaid cymunedol ynghyd i ddathlu chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chyfranogiad i bawb. 

Wedi'i drefnu mewn cydweithrediad â Thriathlon Cymru a rhwydwaith eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol, nod digwyddiad Aml-chwaraeon Addysg Bellach 2026 yw rhoi cyfle i ddysgwyr o bob gallu roi cynnig ar gamp newydd, meithrin hyder a chysylltu â'u cyfoedion mewn amgylchedd cefnogol ac actif. 

Gyda disgwyl dros 120 o gofrestriadau o golegau Gogledd Cymru, mae'r digwyddiadau'n cynnig dau opsiwn:

  • Duathlon Llawn: rhedeg 5km / beicio 20km / rhedeg 2.5km 
  • Digwyddiad Go Tri: rhedeg 1km / beicio 4km / rhedeg 1km - wedi'i gynllunio fel opsiwn cynhwysol ar gyfer dysgwyr llai actif a'r rhai sy'n newydd i chwaraeon cystadleuol 

Gwybodaeth Bellach 

Cysylltwch am ragor o wybodaeth neu i gofrestru diddordeb eich coleg. 

Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon 
Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk  

Dyddiad ac Amser
Location
Glan Y Morfa Industrial Estate,
Marsh Rd,
Rhyl,
LL18 2AD

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.