Colegau Cymru yn disgleirio ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon AoC 2025
Roedd dysgwyr addysg bellach o bob rhan o Gymru yn falch o gynrychioli eu colegau ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon AoC eleni, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Nottingham rhwng 4 a 6 Ebrill 2025.
Gan ddwyn ynghyd tua 1,500 o ddysgwyr o bob rhan o Gymru a Lloegr, y Pencampwriaethau yw’r digwyddiad chwaraeon myfyrwyr addysg bellach blynyddol mwyaf yn Ewrop ac yn wir ddathliad o chwaraeon coleg. Bellach yn ei 45ain blwyddyn, mae’r gystadleuaeth yn cynnig llwyfan i athletwyr ifanc arddangos eu doniau, magu hyder, a chreu profiadau bythgofiadwy drwy chwaraeon.
Eleni, cymhwysodd chwe choleg Cymreig yn dilyn twrnameintiau rhanbarthol a gynhaliwyd trwy gydol y flwyddyn academaidd. Yn cynrychioli Cymru roedd:
- Coleg Caerdydd a’r Fro - Pêl-fasged Dynion, Pêl-droed Merched, Pêl-droed Pan Anabledd
- Grŵp Colegau NPTC - Ras Dygnwch Dynion
- Grŵp Llandrillo Menai - Ras Dygnwch Dynion
- Coleg Gwent - Ras Dygnwch Merched
- Coleg y Cymoedd - Pêl-rwyd
- Coleg Gŵyr Abertawe - Pêl-droed Dynion
- Coleg Catholig Dewi Sant - Ras Dygnwch Dynion
Ymhlith y perfformiadau nodedig, cadwodd Tîm Pêl-fasged Dynion Coleg Caerdydd a’r Fro eu teitl cenedlaethol, gan ennill am yr ail flwyddyn yn olynol. Llongyfarchiadau enfawr i’r tîm a’r staff am gynrychioli Cymru mor llwyddiannus ar y llwyfan cenedlaethol unwaith eto.
Daeth cyflawniad anhygoel arall gan Noa Vaughan o Grŵp Llandrillo Menai, a sicrhaodd 3ydd safle yn y Ras Dygnwch Dynion - digwyddiad hynod gystadleuol gyda dros 80 o athletwyr lefel uchaf, gan gynnwys enillwyr blaenorol cystadleuaeth lefel y DU.
-
Tîm Pêl-droed Pan Anabledd Coleg Caerdydd a’r Fro yn gorffen yn y 4ydd safle cryf.
-
Mae Tîm Rhanbarthol Cymru yn y Ras Dygnwch Dynion hefyd yn cyrraedd y 4ydd safle, gan amlygu cryfder cydweithio Cymreig.
Mae dadansoddiad llawn o'r canlyniadau ar gael yma: Canlyniadau Pencampwriaethau Cenedlaethol Association of Colleges
Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru,
“Mae bob amser yn ysbrydoledig gweld yr ymrwymiad, y gwaith tîm, a’r penderfyniad a ddangosir gan ddysgwyr addysg bellach ar y lefel hon. Mae’r Pencampwriaethau nid yn unig yn achlysur chwaraeon gwych ond hefyd yn gyfle i ddysgwyr dyfu’n bersonol ac yn gymdeithasol. Llongyfarchiadau i’r holl ddysgwyr a staff a gynrychiolodd eu colegau dros y penwythnos.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Mae’r cyflawniadau hyn yn dangos pa mor bwysig yw chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn addysg bellach. Mae’r Pencampwriaethau Cenedlaethol yn ddathliad o botensial anhygoel ein dysgwyr, ac rydym yn falch o weld Cymru’n cael ei chynrychioli mor dda. Mae hefyd yn adlewyrchiad o’r gwaith caled sy’n cael ei wneud ar draws colegau i gefnogi lles dysgwyr a ffyrdd actif o fyw.”
Mae ColegauCymru yn parhau i gefnogi mwy o gyfranogiad mewn gweithgaredd corfforol trwy ein Strategaeth Lles Actif. Rydym yn gweithio gyda cholegau a phartneriaid i ymgorffori chwaraeon a lles ym mhob agwedd ar daith y dysgwr, i helpu i greu amgylcheddau ffyniannus sy’n galluogi pawb i gyrraedd eu llawn botensial.
Llongyfarchiadau i’r holl ddysgwyr, staff a cholegau am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i gynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau eleni.
Gwybodaeth Bellach
Am ragor o wybodaeth am Bencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon AoC 2025 a diweddariadau parhaus, ewch i National Championships 2025 | Association of Colleges
Darllenwch fwy am Strategaeth Lles Actif ColegauCymru
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk
#AoChamps