Digwyddiad cynhwysol Aml-chwaraeon llwyddiannus yn gweld dros 400 o ddysgwyr a staff coleg yn cymryd rhan mewn digwyddiadau deuathlon

IMG_0638.jpg

Roedd ColegauCymru yn falch o gynnal digwyddiad Aml-chwaraeon llwyddiannus arall yn gynharach y mis hwn. Rhoddodd y diwrnod cynhwysol gyfleoedd i ddysgwyr addysg bellach a staff o golegau ledled Cymru gymryd rhan yn eu digwyddiad aml-chwaraeon cyntaf ar ystod o lefelau.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol gyda 400 o ddysgwyr a staff o Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion, Coleg Penybont, Coleg Walsall a Grŵp Colegau NPTC yn cymryd rhan. Rhoddodd fformat Go-Tri gyfle i ddysgwyr addysg bellach o bob gallu gymryd rhan mewn ras ar eu cyflymder eu hunain, gyda’r cymorth yr oedd ei angen arnynt, a oedd yn ei dro yn caniatáu iddynt brofi deuathlon am y tro cyntaf heb y pwysau o orfod cystadlu.

Meddai Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles ColegauCymru, Rob Baynham

“Mae’n wych gweld y cynnydd mewn cyfranogiad flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nigwyddiad Aml-chwaraeon Pen-bre. Eleni gwelwyd mwy o staff a dysgwyr yn cymryd rhan nag erioed o’r blaen, gyda mwy o golegau’n ac ystod ehangach o alluoedd yn mynychu.

Ychwanegodd Rob,

Mae'r digwyddiad cynhwysol hybrid hwn yn cynnig cyfle i ddechreuwyr a chystadleuwyr gymryd rhan yn yr un digwyddiad ac mae'n profi'n boblogaidd. Edrychaf ymlaen at weld y fformat yn datblygu ymhellach ar gyfer digwyddiadau’r dyfodol.

Canlyniadau ac Enillwyr

Enillydd y Dysgwyr Gwryw: 1) Sion Jones 2) Iestyn Thomas 3) Stefan Davies

Enillydd y Dysgwyr Benyw: 1) Antonia Claspar 2) Masie Pritchard 3) Georgina Chatfield

Enillydd Staff Gwryw: 1) Chris Silver 0:56:02 2) Christian Regis 0:58:47 3) Martin Flear 0:59:28

Enillydd Staff Benyw: 1) Rebecca Lewis 01:15:03 2) Laura Thomas 01:15:03 3) Rachel Jones 01:15:41

Cafodd y digwyddiad sylw ar BBC Radio Cymru a rhaglenni cylchgrawn S4C, Heno a Prynhawn Da.

Mae ColegauCymru yn ddiolchgar am y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r digwyddiad. Rydym hefyd yn ddiolchgar am yr ystod eang o adnoddau a ddarparwyd gan bartneriaid y digwyddiad, Triathlon Cymru, Beicio Cymru, AoC Sport, Chwaraeon Anabledd Cymru, Coleg Sir Gâr, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin a Pharc Gwledig Pen-bre.

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran!

Gwybodaeth Bellach
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles ColegauCymru
Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.