Penodi Simon Pirotte OBE yn Brif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd

pexels-cottonbro-studio-4065876.jpg

Mae’n bleser gan ColegauCymru longyfarch Prif Weithredwr Coleg Penybont, Simon Pirotte OBE, fel Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei ffurfio.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey,

“Mae Simon yn arweinydd profedig ac mae ganddo gyfoeth o brofiad o weithio yn y sector ôl-16. Bydd yn golled fawr i Goleg Penybont ac i addysg bellach, ond ef yw’r person cywir i arwain y Comisiwn newydd yn y blynyddoedd cynnar hollbwysig hyn. Ar ôl gwasanaethu fel Is-Gadeirydd ColegauCymru yn flaenorol, mae Simon yn deall pŵer dysgu o ansawdd uchel i drawsnewid bywydau a phwysigrwydd addysg ôl-16 i les cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Mae colegau’n edrych ymlaen at weithio gydag ef i gyflawni ein gweledigaeth o sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael mynediad i addysg o’r radd flaenaf.” 

“Yn ogystal â chael y sefydliad ar ei draed, mae angen i arweinwyr y Comisiwn ddechrau edrych ar y newidiadau mawr sydd eu hangen i wella canlyniadau i ddysgwyr ac i gefnogi busnesau. Mae angen rhoi blaenoriaeth i wella’r pontio o ysgolion i addysg ôl-16 ac i gefnogi addysg a hyfforddiant galwedigaethol i bobl o bob oed.” 

Mae Simon wedi gweithio yn y sector addysg ers dros ddeng mlynedd ar hugain mewn swyddi ar draws addysg uwch, addysg bellach a’r sector ysgolion. Bu hefyd yn gweithio fel Pennaeth Adran yn Los Angeles, UDA ar Ysgoloriaeth Fulbright am flwyddyn. 

Yn 2021, derbyniodd Simon OBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines am wasanaethau i addysg. 

Fel Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont, mae Simon wedi ennill sawl gwobr fawreddog gan gynnwys Gwobr WhatUni y Flwyddyn y DU ar gyfer Addysg Uwch 2018, a Gwobr Beacon AoC y DU ar gyfer Arweinyddiaeth a Llywodraethu 2018. Rhestrwyd Coleg Penybont hefyd fel y Coleg Addysg Bellach gorau yn y DU yn rhestr The Times 100 Best Companies to Work For yn 2017 ac eto yn 2020. Yn 2019, enwyd y Coleg yn Goleg Atodol Addysgol y Flwyddyn The Times.

Dymunwn bob llwyddiant i Simon yn ei rôl newydd ac edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith gydag ef. 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad Cabinet 
Datganiad Ysgrifenedig: Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - Penodi'r Prif Swyddog Gweithredol 
8 Mehefin 2023

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.