Mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o ddigwyddiadau chwaraeon i fyfyrwyr a'u colegau ledled Cymru.
Dyma'r gemau ar gyfer cystadlaethau rhanbarthol 2025/26, a drefnir mewn cydweithrediad â cholegau ledled Cymru. Gan adeiladu ar ein llwyddiannau blaenorol, ein nod yw cynyddu cyfranogiad trwy gynnal mwy o gystadlaethau ac annog mwy o ddysgwyr i gynrychioli eu colegau.
Trosolwg o'r Cystadlaethau Rhanbarthol
Noder, mae ceisiadau i'r Gystadleuaeth Ranbarthol yn gyfyngedig i Aelododau ColegauCymru. I fynegi diddordeb yn y Cystadlaethau Rhanbarthol, cysylltwch â Arin.Gulsen@ColegauCymru.ac.uk neu Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk.
Gweithgaredd |
Rhyw |
Dyddiad digwyddiad |
Lleoliad |
Pêl-fasged |
Dynion |
Dydd Mawrth 11 Tachwedd |
House of Sport, Caerdydd |
Traws Gwlad |
Cymysg |
Dydd Mercher 22 Hydref |
Aberhonddu |
Pêl-droed |
Menywod |
Dydd Iau 9 Hydref |
I’w gadarnhau (Prifysgol De Cymru) |
Dynion |
Dydd Mawrth 11 Tachwedd |
Coleg Caerdydd a’r Fro, Leckwith |
|
Ability Counts De Cymru |
Dydd Gwener 10 Hydref |
Coleg Caerdydd a’r Fro, Leckwith |
|
Ability Counts Gogledd Cymru |
Dydd Mawrth 4 Tachwedd |
Parc Eirias, Bae Colwyn |
|
Pêl-rwyd |
Menywod |
Dydd Mawrth 11 Tachwedd |
House of Sport 3, Caerdydd |
Rygbi |
Menywod |
Dydd Mercher 22 Hydref |
I'w gadarnhau |
Twrnameintiau Rhanbarthol Eraill
Tenis Bwrdd Rydym yn bwriadu cynnal tair twrnamaint tenis bwrdd rhanbarthol yn Nhymor yr Hydref (Gogledd, De-orllewin a De-ddwyrain), gan weithio mewn partneriaeth â Table Tennis Wales. Mae lleoliadau a dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau hyn i'w gadarnhau.
Boccia Bydd tair twrnamaint Boccia rhanbarthol eleni mewn fformat tebyg i'r digwyddiad Boccia Bonanza a drefnir gan Grŵp Llandrillo Menai a Chwaraeon Anabledd Cymru yn 2024/25. Bydd manylion hyn hefyd yn cael eu rhannu gyda chysylltiadau ar gyfer SBA (Sgiliau Byw Annibynnol) a Lles Actif.
Digwyddiadau Aml-chwaraeon Addysg Bellach
Ochr yn ochr â digwyddiadau cystadleuol, byddwn yn cynnal ein cyfres ddeuathlon Aml-chwaraeon Addysg Bellach flynyddol yng Ngogledd a De Cymru. Ni fyddai poblogrwydd a llwyddiant y digwyddiadau hyn yn bosibl heb yr ymdrech wych a ddangosir gan ddysgwyr a staff sy'n dod â'r digwyddiadau'n fyw, edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Rhyl a Phen-bre.
Aml-chwaraeon Addysg Bellach Gogledd Cymru - Rhyl 2026 |
5 Mai 2026 |
Aml-chwaraeon Addysg Bellach Pembre – De-Orllewin Cymru 2026 |
13 Mai 2026 |
Wedi'i drefnu mewn cydweithrediad â Triathlon Cymru a rhwydwaith eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol, nod digwyddiadau Aml-chwaraeon Addysg Bellach 2026 yw rhoi cyfle i ddysgwyr o bob gallu roi cynnig ar gamp newydd, meithrin hyder, a chysylltu â'u cyfoedion mewn amgylchedd cefnogol ac egnïol.
Gyda disgwyl dros 400 o gofrestriadau mewn colegau ledled Cymru a Lloegr, mae'r digwyddiadau'n cynnig dau opsiwn:
-
Deuathlon Llawn: Rhedeg 5km / Beicio 20km / Rhedeg 2.5km
-
Digwyddiad Go Tri: Rhedeg 1km / Beicio 4km / Rhedeg 1km - wedi'i gynllunio fel opsiwn cynhwysol i ddysgwyr llai actif a'r rhai sy'n newydd i chwaraeon cystadleuol
Gwybodaeth Bellach
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i gofrestru diddordeb eich coleg.
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk
Arin Gulsen, Cynorthwyydd Cyfathrebu a Digwyddiadau
Arin.Gulsen@ColegauCymru.ac.uk