Ymateb Ymgynghoriad
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 7 Mehefin 2024
Mae'r her i'r sector addysg bellach yng Nghymru wrth ystyried atal afiechyd (gordewdra) yn cyd-fynd yn agos â'r grwpiau oedran dan sylw a'r gostyngiad yn lefelau gweithgaredd. O'i gyfuno â ffactorau cymdeithasol eraill a'r pontio o'r ysgol i'r coleg, mae yna nifer o rwystrau i gweithgaredd ac o ganlyniad gwell canlyniadau iechyd Mae cyfle hefyd i Llywodraeth Cymru ganolbwyntio mwy ar ymyriadau tymor canolig gyda'r grŵp oedran hwn yn datblygu gwell iechyd ymhlith oedolion ifanc.
Byddai rhai meysydd allweddol i roi sylw iddynt yn cynnwys:
- Ail-ymgysylltu â’r bobl ifanc hynny sydd wedi rhoi’r gorau i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn ystod eu harddegau, yn enwedig menywod ifanc a merched – yn nodweddiadol rhwng 14-16 oed.
- Mwy o gydnabyddiaeth i beryglon iechyd pobl ifanc yn “anweithgar” ac effaith hirdymor gordewdra yn y grŵp oedran hwn.
- Defnyddio mewnwelediad o wledydd Ewropeaidd lle rhoddir mwy o werth ar addysg gorfforol a lefelau gweithgaredd corfforol rhwng 6-14 oed.
- Cefnogi’r sector addysg bellach i adeiladu ar gyflawni prosiectau Lles Actif llwyddiannus sy’n hyrwyddo mwy o weithgarwch a gwell iechyd meddwl ymhlith dysgwyr addysg bellach.
Gwybodaeth Bellach
Jamie Adair, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus
Jamie.Adair@ColegauCymru.ac.uk