Heddiw mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yng nghyd-destun Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 sy’n gosod cyfres o gyfyngiadau ar ymgynnull, symudiadau pobl a gweithrediad busnesau, gan gynnwys eu cau.
Mae cyhoeddiad heddiw yn golygu newid ar gyfer gweithgareddau grwpiau awyr agored sy'n gam cadarnhaol i chwaraeon mewn colegau.
“Rydym yn gwneud newidiadau i’r rheoliadau i ganiatáu cynulliadau mwy yn yr awyr agored o hyd at 30 o bobl, pan fyddant wedi'u trefnu ac yn cael eu goruchwylio gan berson cyfrifol. Bydd hyn yn caniatáu i weithgareddau chwaraeon a hamdden, megis dosbarthiadau ffitrwydd a dawnsio gael eu cynnal yn yr awyr agored, yn ogystal ag addoli ar y cyd. Bydd hyn yn cynnwys elusennau, busnesau a chlybiau chwaraeon a bydd angen cynnal asesiad risg.”
Mark Drakeford MS, y Prif Weinidog
Yn ymarferol, mae cyhoeddiad heddiw yn golygu y gall grŵp gwrdd yn yr awyr agored i ymgymryd â gweithgaredd a chadw pellter cymdeithasol. Disgwylir cyngor pellach mewn perthynas â nifer o feysydd gan gynnwys rhannu offer, glanhau a thrafnidiaeth.
Mae dull gofalus yn parhau i gael ei gynghori i sicrhau bod yr holl weithgareddau a chynhelir yn gyfreithiol, yn yswiriadwy ac yn cael ei gymeradwyo gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol/coleg. Diogelwch a lles dysgwyr a staff yw ein blaenoriaeth o hyd.
Disgwylir gwybodaeth bellach gan Chwaraeon Cymru a’r cyrff llywodraethu cenedlaethol yn fuan. Fe fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth neu ganllawiau pellach yn uniongyrchol â cholegau.
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru:
Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020
10 Gorffennaf 2020