Digwyddiad Aml-chwaraeon Cynhwysol yn dychwelyd am y drydedd flwyddyn yn cefnogi dysgwyr addysg bellach i fod yn actif!

DSC03417-Edit.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Digwyddiad Aml-chwaraeon Addysg Bellach 2023 yn dychwelyd ar gyfer 2023. 

Cynhelir y Duathlon cynhwysol hwn ym Mharc Gwledig Pen-bre ddydd Mercher 10 Mai 2023, ac mae’n cynnig cyfle i ddysgwr a staff addysg bellach gymryd rhan yn eu digwyddiad aml-chwaraeon cyntaf ar amryw o lefelau. Mae ein digwyddiadau blaenorol wedi croesawu cyfranogwyr yn amrywio o ddysgwyr Sgiliau Dysgu Annibynnol (ILS) yn mwynhau her gweithgaredd grŵp am y tro cyntaf hyd at ddysgwyr a staff yn cystadlu ar lefel elitaidd. 

Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru, 

“Disgwylir i 400 o gystadleuwyr o 7 coleg o bob rhan o Gymru gymryd rhan. Mae Aml-chwaraeon Addysg Bellach yn cynrychioli cyfeiriad newydd ar gyfer chwaraeon cystadleuol a digwyddiadau yn y sector addysg bellach, mae’r fformat hwn yn darparu un o’r ychydig gyfleoedd lle gall dysgwyr a staff gystadlu ochr yn ochr â’i gilydd, o lefel dechreuwyr hyd at lefel fwy cystadleuol.” 

Ychwanegodd Pennaeth Datblygu Triathlon Cymru, Amy Jenner, 

“Yn Triathlon Cymru ein pwrpas yw datblygu cymuned triathlon sy’n gwella llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad unwaith eto. Mae’r Duathlon yn cynnig fformat i bawb ac mae’n enghraifft wych o sut gall dysgwyr a staff elwa o fod yn actif.” 

Bydd digwyddiad 2023 unwaith eto yn canolbwyntio ar ddarparu her sy’n cofleidio egwyddorion Strategaeth Llesiant Actif ColegauCymru, sy’n ceisio helpu Cymru i ddod yn genedl iachach a mwy actif. Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i annog cyfranogwyr i wella eu lles trwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol gyda'u cyfoedion, gan adeiladu gwydnwch a sgiliau cymdeithasol yn y broses. 

Mae ColegauCymru yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein partneriaid Triathlon Cymru, Coleg Sir Gâr, AoC Sport, Beicio Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Pharc Gwledig Pen-bre

Rydym hefyd yn falch i gyhoeddi dau bartner newydd ar gyfer digwyddiad eleni. Bydd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ymuno â ni i lansio’r ap newydd ‘Chwaraeon Trwy’r Gymraeg’ mewn partneriaeth gyda Coleg Cambria, yn cefnogi dysgwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddyn nhw yn y dosbarth ac yn y gweithle, beth bynnag yw lefel eu sgiliau iaith ar hyn o bryd. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru hefyd yn ychwanegiad i'w groesawu at y bartneriaeth o sefydliadau sy'n ymwneud â'r digwyddiad. Gyda dros 40% o gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, mae'r Duathlon yn darparu agwedd gwbl gynhwysol at chwaraeon addysg bellach. 

Ariennir y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Brosiect Lles Actif ColegauCymru ac mae’n cysylltu â gweithgaredd Prosiect Lles Actif Chwaraeon Cymru yn y sector addysg bellach yng Nghymru. 

Gwybodaeth Bellach

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru

Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru 
Robert.Baynham@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.