Digwyddiad Aml-chwaraeon Cynhwysol yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn yn cefnogi dysgwyr Addysg Bellach i fod yn actif!

IMG_0643.jpg

Bydd Digwyddiad cynhwysol Aml-chwaraeon Addysg Bellach ColegauCymru yn dychwelyd heddiw am ei bedwaredd flwyddyn! 

Cynhelir y Duathlon hwn ym Mharc Gwledig Pen-bre ddydd Mercher 15 Mai 2024, ac mae’n cynnig cyfle i bob dysgwr a staff mewn lleoliadau addysg bellach gymryd rhan yn eu digwyddiad Aml-chwaraeon cyntaf ar amrywiaeth o lefelau. Mae ein digwyddiadau blaenorol wedi croesawu cyfranogwyr yn amrywio o ddysgwyr Sgiliau Dysgu Annibynnol (ILS) yn mwynhau her gweithgaredd grŵp am y tro cyntaf hyd at ddysgwyr a staff yn cystadlu ar lefel elitaidd. Gyda dros 40% o gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, mae'r Duathlon yn darparu agwedd gwbl gynhwysol at chwaraeon mewn Addysg Bellach.  

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl  

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (13 – 19 Mai) ar y thema Symud: Symud mwy er budd ein hiechyd meddwl, sy’n amserol gan fod y digwyddiad hwn yn mynd ati i gynnwys pob dysgwr, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Dywedodd Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru,  

“Nawr yn ei bedwaredd flwyddyn, a gyda dros 400 o gystadleuwyr o golegau ledled Cymru wedi cofrestru i gymryd rhan, mae digwyddiad Aml-chwaraeon Addysg Bellach ColegauCymru yn cynrychioli cyfeiriad newydd ar gyfer chwaraeon cystadleuol a digwyddiadau yn y sector Addysg Bellach. Mae’r fformat hwn yn darparu un o’r ychydig gyfleoedd lle gall dysgwyr a staff gystadlu ochr yn ochr â’i gilydd, o ddechreuwyr hyd at lefel gystadleuol.”  

Ychwanegodd Pennaeth Datblygu Triathlon Cymru, Amy Jenner,  

“Yn Nhriathlon Cymru ein pwrpas yw datblygu cymuned triathlon sy’n gwella llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad hwn unwaith eto. Mae’r Duathlon yn cynnig fformat i bawb ac mae’n enghraifft wych o sut gall dysgwyr a staff elwa o fod yn actif.”  

Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru, Coleg Sir Gâr, Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, AoC Sport a Chyngor Sir Gâr, wrth gyflwyno’r digwyddiad hwn.  

Gyda dros 400 o gofrestriadau o Goleg Penybont, Coleg Sir Gâr, Coleg y Cymoedd, Coleg Gŵyr Abertawe, Grŵp Colegau NPTC, Coleg Sir Benfro, Y Coleg Merthyr Tudful a Choleg Walsall, mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn llwyddiant unwaith eto eleni.

Gwybodaeth Bellach 

Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon 
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.