Cyhoeddodd y Prif Weinidog ddydd Gwener 11 Medi y bydd gorchuddion wyneb yn dod yn orfodol i bawb 11 oed a hŷn mewn mannau cyhoeddus dan do ledled Cymru o 14 Medi 2020.
Ar gyfer darpariaeth chwaraeon a gweithgareddau corfforol mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd angen gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus gan gynnwys o fewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden. Ni fydd angen gwisgo gorchuddion wyneb wrth gymryd rhan mewn chwaraeon trefnus neu weithgareddau corfforol.
Ni fydd y cyhoeddiad pellach, sef o ddydd Llun dim ond chwe pherson o aelwyd estynedig fydd yn gallu cyfarfod y tu fewn ar unrhyw un adeg, yn berthnasol i weithgareddau chwaraeon wedi'i drefnu. Mae'r rhif hwn yn parhau i fod yn 30 ar gyfer gweithgareddau dan do ac awyr agored. Atgoffir pob coleg i sicrhau, trwy eu protocol eu hunain, eu bod yn parhau i ddilyn canllawiau gan Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Datganiad Swyddogol gan Gymdeithas Chwaraeon Cymru:
“Rydym wedi derbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru nad oes unrhyw newid i’r crynhoad dan do ar gyfer rheoleiddio ymarfer corff, fodd bynnag, bydd yn ofynnol i bob cwsmer ac aelod staff wisgo gorchuddion wyneb mewn cyfleusterau dan do, er NID ar gyfer ymarfer corff.”
“…ymarfer gydag eraill, mewn niferoedd o ddim mwy na 30 person, mewn stiwdio ffitrwydd, campfa, pwll nofio, canolfan neu gyfleuster hamdden dan do arall neu unrhyw adeilad agored arall...”.
Argymhellir ymgyfarwyddo â Chwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru sy'n nodi:
“Os ydych chi'n paratoi i wneud ymarfer corff, newid, neu ymgymryd ag unrhyw weithgaredd nad yw'n egnïol, yn enwedig pan fyddwch chi mewn cysylltiad agos â phobl eraill, bydd angen i chi wisgo gorchudd wyneb.
"Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau lle mae cynllun yr adeilad a natur yr ymarfer rydych chi'n ei wneud yn golygu na fyddai'n rhesymol disgwyl i chi wisgo gorchudd wyneb. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cynghori yn erbyn gwisgo gorchudd wyneb wrth ymarfer gan y gall chwys wneud i orchudd wyneb wlychu'n gyflymach, gan ei gwneud hi'n anodd anadlu a hefyd hyrwyddo twf micro-organebau. Mae'n cynghori'r mesur ataliol pwysig yn ystod ymarfer corff yw cynnal pellter corfforol oddi wrth eraill."
Gwybodaeth Bellach
Diweddariad ar Ganllawiau Llywodraeth Cymru:
Gorchuddion wyneb: canllawiau i'r cyhoedd
12 Medi 2020
Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru:
Cyfyngu ymhellach ar gwrdd yn gymdeithasol a gorfodi gorchuddion wyneb i helpu i atal argyfwng coronafeirws newydd
11 Medi 2020