Mae Colegau Addysg Bellach yng Nghymru yn croesawu’r her o wneud Cymru yn genedl fwy egnïol, gan wella iechyd a lles dysgwyr a chymunedau lleol.
Mae academïau arbenigol mewn colegau yn rhoi cyfleoedd gwych i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon traddodiadol fel rygbi, pêl-rwyd a phêl-droed. Y cyfleusterau hyn yn aml yw’r ris y bydd pobl ifanc yn camu arni cyn ennill anrhydeddau cenedlaethol. Cafodd 14 o garfan rygbi Cymru – sy’n cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Japan ar hyn o bryd – eu haddysg mewn colegau Addysg Bellach, gan ddatblygu eu sgiliau yng nghynghrair colegau Undeb Rygbi Cymru (Rygbi Pawb) a chystadlaethau tebyg.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae colegau hefyd wedi croesawu’r her sy’n wynebu nifer o bobl ifanc i fod yn fwy egnïol, gan fynd ati i’w helpu i wella’u hiechyd a’u lles. Mae rhoi profiad dysgu cyfoethocach a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd bellach yn digwydd law yn llaw â’r broses o ddatblygu sgiliau newydd.
Erbyn hyn, mae hanner y bobl 16-19 oed yng Nghymru yn mynd i goleg Addysg Bellach. Fis Medi eleni, yn y tri choleg ar ddeg, dechreuodd 45,000 o bobl ifanc ar bennod newydd yn eu taith drwy fyd addysg, gan gyfarfod ffrindiau newydd wrth astudio tuag at swyddi yn y dyfodol mewn pob math o broffesiynau. Mae cyfle ganddynt bellach i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon amrywiol iawn.
Meddai Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,
“Mae colegau Addysg Bellach Cymru yn creu rhwydwaith cenedlaethol o ganolfannau cymunedol sy’n hybu dysgu a sgiliau. Mae’r colegau wedi croesawu’r angen i annog pobl ifanc i fod yn egnïol a datblygu sgiliau arwain newydd. Maent yn cefnogi hyn drwy ddatblygu cyfleusterau chwaraeon cymunedol newydd a chanolfannau hyfforddi o’r radd flaenaf.
“Mae’r colegau’n cyflogi staff arbenigol ac yn creu cyfleoedd newydd sy’n gysylltiedig â’r rhaglenni tiwtorial. Mae darpariaeth Addysg Bellach yn cyfuno’r cwricwlwm a phrofiadau ehangach sydd i’w cael y tu allan i’r neuadd ddarlithio a’r gweithdai.
“Mae ein partneriaeth genedlaethol gyda Chwaraeon Cymru wedi helpu i ddatblygu capasiti’r sector i ddarparu rhaglenni chwaraeon, gweithgarwch corfforol a lles sy’n cyfoethogi profiad dysgwyr, ac yn fwy na hynny yn gwella deilliannau addysgol y bobl ifanc hyn.”
Er bod bron i hanner pobl 16-19 oed yn ddigon egnïol, ac yn gwneud yr ymarfer corff rheolaidd y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan bobl yn y grŵp oedran hwn, mewn rhai achosion mae hyd at 50% o’r dysgwyr wedi dweud nad ydynt yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn unrhyw chwaraeon na gweithgarwch corfforol. Yn y tymor hir, gallai hyn arwain at broblemau iechyd fel gordewdra, diabetes math 2 ac afiechydon eraill sy’n gysylltiedig â diffyg ymarfer corff.
Gan weithio mewn partneriaeth agos â Chwaraeon Cymru, mae ColegauCymru wedi bod yn helpu colegau Addysg Bellach i ddatblygu cyfleoedd newydd i ddysgwyr fod yn fwy egnïol, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau difyr sy’n cyd-fynd â’u bywydau a’u hastudiaethau yn y coleg. Mae’r sesiynau gweithgaredd fel arfer yn hyblyg, yn fyrrach eu hyd, ac yn osgoi amseroedd prysur pan fydd gan fyfyrwyr ymrwymiadau eraill yn y coleg ac yn eu bywydau personol.
Mae dros 35 math gwahanol o weithgareddau wedi cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys ioga, Rock-robics, Forces Fitness, chwaraeon llachar, a dringo dan do, sy’n rhoi syniad o’r gwahanol ddewisiadau sydd ar gael. Mae dros 6,000 o ddysgwyr wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd yn ystod 2018/19, gyda llawer o’r sesiynau’n cael eu trefnu gan eu cyd-fyfyrwyr sy’n gweithio fel gwirfoddolwyr a llysgenhadon ifanc. Mae dros fil o sesiynau wedi’u cynnal drwy Gymru, gyda photensial i gynnal llawer iawn mwy yn y dyfodol.
Meddai Graham Williams, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymunedol Chwaraeon Cymru,
“Nod Chwaraeon Cymru yw dangos budd chwaraeon i bawb drwy greu cenedl fwy egnïol a helpu pobl i fwynhau chwaraeon gydol eu hoes. Does dim modd gwneud hyn heb weithio ar y cyd mewn partneriaeth, heb arloesi, a heb ddatblygu hyfforddwyr ac arweinwyr newydd. Mae ein gwaith gyda ColegauCymru a cholegau Addysg Bellach yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf wedi ceisio cyflawni’r amcanion hyn, gan roi gwersi gwerthfawr iawn i bob partner a fu’n rhan o’r broses. Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud wedi llwyddo i annog mwy o bobl ifanc i fod yn egnïol, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau wrth i bobl gymryd rhan, a gwella cyfleoedd i wirfoddolwyr. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld datblygiadau’r dyfodol.”
Mae datblygu gweithgareddau newydd i golegau yn cael effaith maes o law ar gyfleoedd gwaith yn y dyfodol, ac ar gyflogwyr. Bydd llawer o’r dysgwyr yn fwy heini yn eu gweithle yn y dyfodol, byddant yn fwy hyderus, a bydd eu lles yn well drwyddi draw. Mae’r rheini sy’n arwain ac yn gwirfoddoli eisoes yn cael eu cyflogi gan glybiau chwaraeon lleol, cynghorau a chyfleusterau hamdden, ac maent yn datblygu’u sgiliau wrth helpu cymunedau lleol i fod yn fwy egnïol. Gall y naill a’r llall helpu i leihau’r baich ar y gwasanaeth iechyd yn sgil salwch sy’n gysylltiedig â diffyg ymarfer corff, gan helpu cymunedau ar yr un pryd i ddatblygu prosiectau chwaraeon newydd ac arloesol.
Nodwedd o bwys yn yr holl weithgareddau fu natur gynhwysol y sesiynau. Mae dros 50% o’r rheini sy’n cymryd rhan yn ddysgwyr benywaidd; mae’r holl brosiectau’n gynhwysol gyda sesiynau ar gael i ddysgwyr sydd ag anableddau; ac mae’r holl sesiynau hefyd yn rhad ac am ddim sy’n golygu bod dysgwyr o deuluoedd incwm isel neu ddysgwyr sydd â llai o gyfleoedd yn lleol yn gallu cymryd rhan.
Cafodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, gyfle i weld amrywiaeth y cyfleusterau sydd ar gael i bobl ifanc yn ystod ymweliad â Choleg Sir Gâr yr wythnos hon, lle mae 41% o’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos. Ar ôl ei ymweliad, dywedodd,
“Mae helpu Cymru i ddod yn genedl iach a mwy egnïol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rwy’n ddiolchgar iawn i ColegauCymru am yr holl waith maen nhw a cholegau Addysg Bellach yng Nghymru yn ei wneud i ddatblygu pob math o gyfleoedd newydd a chyffrous i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgaredd corfforol sy’n cyd-fynd â’u hastudiaethau. Mae’r prosiectau sy’n cael eu cynnal yng Ngholeg Sir Gâr yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni wrth weithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned, clybiau chwaraeon a phartneriaid eraill.”
I gael y newyddion diweddaraf am chwaraeon, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a sgiliau, dilynwch @ColegauCymru ar Twitter.