Digwyddiad Aml-chwaraeon ColegauCymru yn dychwelyd yn dilyn absenoldeb tair blynedd

My project (1).jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi y bydd ein Digwyddiad Aml-chwaraeon Addysg Bellach Pen-bre 2022 yn dychwelyd yn dilyn absenoldeb tair blynedd.

Cynhelir y Duathlon cynhwysol hwn ym Mharc Gwledig Pen-bre ddydd Mercher 11 Mai 2022, a bydd yn cynnig cyfle i ddysgwyr a staff addysg bellach gymryd rhan, waeth beth yw eu gallu neu lefel ffitrwydd. Croesawodd ein digwyddiad blaenorol ystod o unigolion o ddysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) yn mwynhau her gweithgaredd grŵp am y tro cyntaf hyd at ddysgwyr yn cystadlu ar lefel elitaidd.

Bydd digwyddiad 2022 yn canolbwyntio ar ddarparu her sy’n hybu egwyddorion Strategaeth Lles Actif ColegauCymru, sy’n ceisio helpu Cymru i ddod yn genedl fwy iach ac actif. Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i annog cyfranogwyr i wella eu lles trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chymdeithasol gyda chyfoedion. Ac am y tro cyntaf byddwn hefyd yn croesawu staff i gystadlu, nail ai fel unigolion, gyda grwpiau tiwtor, neu fel grŵp staff!

Mae dau opsiwn mynediad ar gael gyda phob ras wedi'i threfnu'n donnau o gyfranogwyr â galluoedd tebyg.

Go Tri Duathlon – Rhedeg 1km / Beic 4km / Rhedeg 1km

Duathlon Llawn – Rhedeg 5km / Beic 20km / Rhedeg 2.5km

Mae mynediad am ddim gyda'r digwyddiad wedi'i yswirio'n llawn fel gweithgaredd Triathlon Cymru. Gofynnir i golegau am flaendal o £200 y coleg a gaiff ei ddychwelyd yn dilyn presenoldeb yn y digwyddiad. Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn derbyn crys-t y ras, potel ddŵr a phryd o fwyd yn dilyn y ras.

Mae ColegauCymru yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein partneriaid gan gynnwys Triathlon Cymru, Coleg Sir Gâr, Chwaraeon AoC, Beicio Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Pharc Gwledig Pen-bre.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi ymhellach gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Brosiect Lles Actif ColegauCymru ac mae’n cysylltu â gweithgaredd Prosiect Lles Actif Chwaraeon Cymru yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles ColegauCymru, Rob Baynham, i fynegi diddordeb erbyn dydd Gwener 8 Ebrill.
Robert.Baynham@colegaucymru.ac.uk

Bydd cofrestru’r digwyddiad yn cau ddydd Gwener 6 Mai.

Darllen Pellach

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Cyllid newydd i gefnogi llesiant meddyliol Prentisiaid, Hyfforddeion a dysgwyr a staff addysg bellach
17 Mawrth 2022

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.