Mae ColegauCymru ar fin cynnal cyfres o Fforymau Lles Actif rhanbarthol ym mis Mawrth 2025, gan ddod â lleisiau allweddol o’r sector Addysg Bellach ynghyd i archwilio ffyrdd o wella llesiant drwy weithgarwch corfforol.
O dan y thema Amgylcheddau Ffyniannus, bydd y fforymau'n canolbwyntio ar greu cymunedau coleg iachach trwy fabwysiadu ymagwedd ataliol at iechyd meddwl, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cyfranogiad, a datblygu llwybrau gweithlu'r dyfodol.
.jpg) Amserlen
Amserlen 
De-Orllewin Cymru 
Coleg Sir Gâr, Llanelli | Dydd Mawrth 11 Mawrth | 10.00yb - 3.00yp 
COFRESTRWCH EICH LLE 
Gogledd Cymru 
Coleg Menai (Grŵp Llandrillo Menai), Llangefni | Dydd Gwener 14 Mawrth | 10.00yb - 3.00yp 
COFRESTRWCH EICH LLE 
De-Ddwyrain Cymru 
Y Coleg Merthyr Tudful | Dydd Iau 10 Ebrill | 10.00yb - 3.00yp 
COFRESTRWCH EICH LLE 
Bydd pob digwyddiad yn dod â staff y coleg, dysgwyr, a rhanddeiliaid diwydiant o’r sectorau chwaraeon a lles ynghyd i drafod ffyrdd arloesol o gefnogi lles actif mewn addysg bellach. Bydd mynychwyr yn clywed gan ddysgwyr addysg bellach a llysgenhadon sy'n arwain y ffordd wrth hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw ar y campws.
Amlygodd Rheolwr Prosiect Lles Actif ColegauCymru, Rob Baynham, bwysigrwydd y fforymau,
"Mae cefnogi lles meddyliol a chorfforol dysgwyr a staff yn bwysicach nag erioed. Bydd y fforymau hyn yn darparu llwyfan i rannu syniadau, archwilio dulliau gweithredu newydd, a sicrhau bod lles actif wedi'i wreiddio ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru. Drwy gydweithio, gallwn greu amgylcheddau ffyniannus sy'n galluogi pawb i gyrraedd eu llawn botensial."
Mae’r fforymau hyn yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i adeiladu gweledigaeth ar gyfer Colegau Actif / Bywydau Actif / Cymru Actif, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gallu elwa ar fanteision iechyd corfforol a meddyliol ffordd o fyw actif.
 Gwybodaeth Bellach
Gwybodaeth Bellach
Strategaeth Lles Actif ColegauCymru 
2020 - 2025
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon 
Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk
 
                             
                                 
                                             
                                             
                                             
                                            